Croeso i dudalen Facebook Amgueddfa Brycheiniog. Welcome to the Brecknock Museum Facebook page, find upcoming events and activities here.
Mae Amgueddfa Brycheiniog wedi’i lleoli yn hen Frawdlys a Neuadd Sir Frycheiniog sy’n adeilad rhestredig graddfa II*. Fe’i hadeiladwyd yn 1842 gan y penseiri, Wyatt a Brandon ac mae’n un o’r enghreifftiau gwychaf o bensaernïaeth “adfywiad Groegaidd” cynnar Fictoraidd yng Nghymru. Mae Amgueddfa Sir Frycheiniog wedi’i lleoli yma ers 1974 ac mae orielau yma sy’n arddangos Archeoleg, Celf, Bywyd Gwledig a Bywyd Trefol gyda golygfa o Frawdlys Fictoraidd wedi'i ail-ddehongli.
Brecknock Museum is housed in the grade II* listed former Brecknockshire Shire Hall and Assize Court. It was built in 1842 by the architects Wyatt and Brandon and is one of the finest examples of early Victorian "Greek revival" architecture in Wales. It has housed Brecknock Museum since 1974 and has galleries displaying Archaeology, Art, Rural Life, Town Life and the re-interpreted Victorian Assize Court scene.
Agorwyd Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog ar 1 Mawrth 1928 gan Gymdeithas Brycheiniog. Y dasg oedd achub treftadaeth Sir Frycheiniog ar gyfer pobl Brycheiniog (de Powys erbyn hyn).
Gweinyddir Amgueddfa Brycheiniog gan Wasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Powys.
Brecknock Museum & Art Gallery was opened on the 1st March 1928 by the Brecknock Society, it's task, to save the heritage of Brecknockshire for the people of Brecknock (now south Powys). Brecknock Museum is administrated by the Powys County Council Museum Service.